Chapter Text
Roedd y noson yn tywyll ac yn stormus. Disgynnodd y diferion glaw yn drwm ac yn ymosodol yn erbyn y ffenestr, a roedd y coed afalau yn yr ardd yn sgrechian o dan y dŵr a ddaeth o'r nen, ond roedd Dylan yn anymwybodol o hynny tan caeth o ei ddihuno gan ei ffôn yn canu.
'Beth ar y ddaear,' mwmianodd wrth iddo ymbalfalu am y teclyn swnllyd wrth ei wely.
‘Dylan!’ daeth llais Gareth o’r ystafell nesa. Edrychodd Dylan ar y cloc digidol ar y bwrdd. Roedd hi’n gynnar iawn iawn.
‘Sori!’ bloeddiodd yn gryg. O’r diwedd caeth gafael ar y ffôn. ‘Beth?’ holodd yn ddig.
‘Dylan…’ gryddfanodd y llais ar yr ochr arall, ‘Dylan, mae rhywun wedi torri i mewn i fy nhŷ…’
Roedd Dylan yn hollol effro’n sydyn. Eisteddodd yn syth ar y gwely.
‘Owen? Beth ddigwyddodd? Ti’n iawn?’
‘Dwi’n iawn, Dylan. Dwi’n iawn, ond…’
‘Wyt ti wedi galw’r heddlu eto?’
‘Nac ydw, ro’n i’n rhy ofnus. Dylan, wnei di ddod yma, plis? Nid oes gyda fi ffrindiau eraill yma eto, y ffrindiau sy’n deall…’ roedd Dylan eisoes yn gwisgo amdano'n frysiog. Ble oedd ei gôt law e?..
‘Yn deall beth, Owen? Ti’n siŵr fy mod i’n deall?’ clywodd ddrws yr ystafell yn agor ac edrychodd i fyny. Safai Gareth yn ei wisg nos doniol yno a syllu arno’n holgar.
Ochneidiodd Owen yn araf.
‘Maen nhw wedi dwyn y pannas,’ meddai e.
***
Doedd dim car gan Dylan. Roedd e'n eco-gyfeillgar. Ac yn dlawd. Ac yn gwario gormod o arian ar y colur newydd. A doedd e ddim hyd yn oed angen colur, roedd e'n olygus heb golur - fel nawr, ar engraifft, roedd e'n...
'Tro i'r dde yma,' meddai Dylan gan bwyntio.
'Siŵr iawn, syr, ar unwaith, syr,' meddai Gareth gan ddylyfu gên a throi'r llyw.
Roedd car gan Gareth. Roedd e'n oedolyn cyfrifol gyda char a gyda gwaith yn y bore a roedd yr antur fach 'ma'n ddiamheuol dwp.
'Beth sy'n bod ar Owen, beth bynnag?' gofynnodd. Doedd e ddim yn adnabod Owen yn dda iawn, ond roedd Dylan wedi sôn am ei fod e wedi dod o Norwy tua blwyddyn yn ôl. Ro'n nhw'n gweithio gyda'i gilydd. Ac mai Dylan oedd y cyntaf a alwodd Owen pan roedd e mewn perygl. Ddiddorol iawn.
'Mi wna i ddweud bobeth wrthot ti ar ôl ini siarad ag Owen. Dwi'n addo,' atebodd Dylan.
'Pam ddim nawr?'
'Dim fy nghyfrinach yw hi.'
Gwrandawon nhw ar y glaw yn bwrw yn erbyn to'r car. Ddiddorol iawn.
***//***
O'r diwedd, wedi gyrru am ddwy awr yn y tywydd dychrynllyd cyrraeddodd o lan y môr. Cwympai tonnau ar y creigiau'n swnllyd a rhuodd y gwynt ond clywodd o ddim ond y llais yn ei ben yn canu,
rho nhw i fi rho nhw i fi nawr rho nhw i fi nawr nawr nawr rho nhw i fi nawr
Stryglodd i tu allan ac agorodd gist ei gar.
Doedd dim y tu mewn.
